Paid â mynd i'r nos heb ofyn pam Songtext

Brigyn

von Mehr Songtexte

Paid â mynd i'r nos heb ofyn pam Songtext
Paid â mynd i'r nos heb ofyn pam;
ysa, yn dy henaint, am droi'n gas
wrth y drefn a fyn ddifodi'r fflam.

Doethion yn eu noethni'n mentro'r cam
i lawr i bwll heb olau ar y ffas,
ân' nhw ddim yn llwch heb ofyn pam.

Dynion da'n eu dagrau'n cofio cam
alw dawns y don mewn cilfach las,
ân' nhw ddim i'r dwfn heb ofyn pam.

Dynion gwyllt a gipiai, o roi llam,
hynt yr haul ar gân, cyn colli blas,
ân' nhw ddim yn bridd heb ofyn pam.

Gwyr y beddau'n llon er gweld, yn gam,
wreichion gwib ffwrneisi'r sêr ar ras,
ân' nhw ddim i'r gwag heb ofyn pam.

Tithau 'nhad yng ngwagle'r Pelican,
rhega fi a'th ddagrau llym, di-ras.
paid â mynd i'r nos heb ofyn pam
wrth y drefn a fyn ddifodi'r fflam.