Y Sgwar Songtext
Amser prin, ond digon hir i ddylanwadu
Bron yn ddim, ond yn rhoi i gyd yr hyn a allai

Talu'n ddrud, roedd y cyfan yn ei waed
Gorau'r byd, cario'i faich yn enw ei wlad

Cam wrth gam, dringo'n uwch fesul brwydr
Matchstick Man, bellach goruwch unrhyw gysur

Yn y sgwar, mae byd yn galed
Yn y sgwar, rhwng cnawd a menyg
Yn y sgwar, mae dyn a'i dynged
Dewraf dyn, dyrnau dur.

Canfas wag, atgofion oes y mab o Ferthyr
'Sneb yn saff, gwendid bach a gollodd frwydr

Yn y gwres, dyn a'i ddewis, dyn a'i falchder
Run di'r wers, byw yw'r hanes dros holl amser

Yn y sgwar, mae byd yn galed
Yn y sgwar, rhwng cnawd a menyg
Yn y sgwar, mae dyn a'i dynged
Dewraf dyn, dyrnau dur.
Dewraf dyn, dyrnau dur.